Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pynciau

Hafan » Y Tirlun Dinesig a Gwledig » Bywyd gwyllt » Tacsidermi

Canlyniadau 1 i 6 allan o 6

Tudalen 1

Neuadd Bryn-y-Pys, Owrtyn: ystafell de-ddwyreiniol oddi ar mynediad y tŵr, 1956
  • Defnyddiwyd bergwn hyd at ganol y 19eg ganrif fel modd o arbed y cogyddion yn y cartrefi mawr rhag troi'r cig ar gigwain â llaw.  Byddai'r ci yn cael ei osod mewn olwyn fechan oedd yn gysylltiedig â'r gigwain ac wrth iddo redeg byddai'r gigwain yn troi.

Er mwyn osgoi gorweithio'r ci gyda'r gwaith poeth ac annymunol hwn, yn aml cadwyd hwy mewn parau er mwyn iddynt weithio mewn shifftiau.  Credir mai dyma yw tarddiad y ddihareb 'daw haf i gi' (every dog has his day). 

'Whiskey' yw'r enghraifft olaf o fergi sydd wedi goroesi, er ei fod wedi'i stwffio.  Ymddengys bod y brîd wedi diflannu gyda dyfodiad peiriannau'r gegin.

Ffynhonnell:
Cunliffe, J (1991) 'The Turnspit'. Kennel Gazette, tudalennau 20-22.
"Whiskey" y Bergi, 19eg ganrif
Tair wadden wen a ddarganfuwyd ar ystad Llangatwg [delwedd 1 o 2]
  • Gwylan

Tacsidermydd: J. Hutchings, Aberystwyth (1903) 
Câs: ochrau agored; mewnosodiadau ffrâm euraid; dim traed a chorneli sgwâr; mewn cyflwr da.  
Dyddiad: 1903
Mesuriadau: uchder x lled x dyfnder: 41 x 41 x 15 cms

Disgrifiad: Amgueddfa Ceredigion
Gwylan: tacsidermi gan J. Hutchings, Aberystwyth, 1903 [delwedd 1 o 2]
  • Ffured ('mustela furo')

Tacsidermydd: Jefferies, Caerfyrddin
Câs: derw wedi ei farneisio sy'n nodweddiadol o waith Jefferies
Mesuriadau:  uchder x lled x dyfnder: 57 x 40.5 x 22 cm

Mewn rhai rhannau o Brydain, defnyddir y ffurad fel anifail gwaith, er mwyn gyrru'r cwningod allan o'u tyllau dan ddaear.  Yn gyffredinol, mae'r ffurad dipyn yn oleuach na'r anifail y magwyd ef ohono, sef y ffwlbart.  Mae'n debyg iawn i'r ffwlbart a geir ar wastadedd Asia.  Er bod yr anifail hwn wedi ei fagu ers cenedlaethau mewn caethiwed, rhannol ddomestig ydyw'n unig, a gwelir llawer ohonynt yn dianc a byw yn wyllt.

Disgrifiad: Amgueddfa Ceredigion
Ffured: tacsidermi
  • Enghreifftiau o waith J. Hutchings a'i feibion, tacsidermwyr, Aberystwyth, c. 1860-1940au.
J. Hutchings a'i feibion, tacsidermwyr o Aberystwyth