Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Pynciau

Hafan » Cymru a'r Byd » Cymry Llundain » Jac Glan-y-gors (1776-1821)

Canlyniadau 1 i 4 allan o 4

Tudalen 1

  • Ganed John Jones neu Jac Glan-y-gors (1766-1821) yng Nglan-y-gors, Cerrigydrudion, Sir Ddinbych.  Aeth i Lundain ym 1789 ac erbyn 1793 ef oedd rheolwr neu berchennog y 'Canterbury Arms' yn Southwark.  Roedd yn aelod blaenllaw o Gymdeithas y Gwyneddigion ac yn un o sylfaenwyr Cymdeithas y Cymreigyddion ym 1795.  Roedd Glan-y-gors yn fwyaf adnabyddus am ei gerddi a'i faledi dychanol a oedd yn adlewyrchu ei safbwyntiau radical.  Yn y faled hon, mae'n cyflwyno portread dychanol o 'Dic Siôn Dafydd', sef Cymro ystradebol sydd wedi troi ei gefn ar yr iaith a'r diwylliant Cymraeg yn ei ymdrech i lwyddo yn Lloegr.
Baled 'Dic Sion Dafydd' gan Jac Glan-y-gors, tudalen 1
  • Ganed John Jones neu Jac Glan-y-gors (1766-1821) yng Nglan-y-gors, Cerrigydrudion, Sir Ddinbych.  Aeth i Lundain ym 1789 ac erbyn 1793 ef oedd rheolwr neu berchennog y 'Canterbury Arms' yn Southwark.  Roedd yn aelod blaenllaw o Gymdeithas y Gwyneddigion ac yn un o sylfaenwyr Cymdeithas y Cymreigyddion ym 1795.  Roedd Glan-y-gors yn fwyaf adnabyddus am ei gerddi a'i faledi dychanol a oedd yn adlewyrchu ei safbwyntiau radical.  Yn y faled hon, mae Jac Glan-y-gors yn cyflwyno portread dychanol o 'Betti o Lansantffraid', Cymraes benchwiban sy'n mynd yn ysglyfaeth i ffasiynau Llundain.  

Ffynhonnell: Meic Stephens (gol.), 'Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru' (Caerdydd, 1997).
'Cerdd Betti o Lansantffraid' gan Jac Glan-y-gors, tudalen 1
  • Ganed John Jones neu Jac Glan-y-gors (1766-1821) yng Nglan-y-gors, Cerrigydrudion, Sir Ddinbych.  Aeth i Lundain ym 1789 ac erbyn 1793 ef oedd rheolwr neu berchennog y 'Canterbury Arms' yn Southwark.  Roedd yn aelod blaenllaw o Gymdeithas y Gwyneddigion ac yn un o sylfaenwyr Cymdeithas y Cymreigyddion ym 1795.  Roedd Glan-y-gors yn fwyaf adnabyddus am ei gerddi a'i faledi dychanol a oedd yn adlewyrchu ei safbwyntiau radical.  Yn y faled hon, mae'n troi ei sylw at drefn y llysoedd yng Nghymru a'r problemau ieithyddol a oedd yn codi oherwydd safon isel y cyfieithiadau a gafwyd yn y llysoedd.
'Cerdd o Hanes Sessiwn yn Nghymru' gan Jac Glan-y-gors, tudalen 1
  • Ganed John Jones neu Jac Glan-y-gors (1766-1821) yng Nglan-y-gors, Cerrigydrudion, Sir Ddinbych.  Aeth i Lundain ym 1789 ac erbyn 1793 ef oedd rheolwr neu berchennog y 'Canterbury Arms' yn Southwark.  Roedd yn aelod blaenllaw o Gymdeithas y Gwyneddigion ac yn un o sylfaenwyr Cymdeithas y Cymreigyddion ym 1795.  Roedd Glan-y-gors yn fwyaf adnabyddus am ei gerddi a'i faledi dychanol a oedd yn adlewyrchu ei safbwyntiau radical.
'Cerdd Hanesiol yn dangos mor ddedwydd oedd y Cymry yn byw yn amser y Frenhines Bess' gan Jac Glan-y-gors, tudalen 1