Croeso
Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.
Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
Erthyglau
Hafan » Erthyglau » Paentiadau gan Kyffin Williams (1918-2006)Paentiadau gan Kyffin Williams (1918-2006)
Detholiad o beintiadau gan yr arlunydd Kyffin Williams.
Detholiad o beintiadau gan yr arlunydd Kyffin Williams.
Ganed Kyffin Williams yn Sir Fôn ym 1918. Dechreuodd arlunio ar gyngor meddyg, yn dilyn cyfnod o salwch. Rhwng 1941 a 1944 bu'n astudio yn Ysgol Gelf Gain Slade yn Llundain gan ddal swydd yr Uwch Feistr Celf yn Ysgol Highgate, Llundain, rhwng 1944 a 1973. Ym 1968 gwobrwywyd Cymrodoriaeth Winston Churchill iddo i astudio a pheintio'r Cymry ym Mhatagonia. Cynhaliodd Williams ei arddangosfa unigol cyntaf yn P & D Colnaghi, Llundain, ym 1949 a chafodd arddangosfeydd unigol eraill yn Orielau Caerlŷr, Llundain, Amgueddfa ac Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe, Oriel Howard Roberts, Caerdydd ac Oriel Tegfryn, Porthaethwy. Roedd Williams yn arddangos ei waith yn rheolaidd yn Oriel Thackeray, Llundain ac Oriel Albany, Caerdydd. Ym 1987 teithiodd arddangosfa adolygol o Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd i Oriel Mostyn, Llandudno ac Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe, ac ym 1993 cynhaliwyd adolygiad portreadau yn Oriel Ynys Môn yn Llangefni brodorol Williams. Roedd Kyffin Williams yn byw yn Sir Fôn ac yn parhau i arddangos ei waith yn eang. Mae ganddo arddangosfa barhaol yn Oriel Ynys Môn, Sir Fôn. Roedd yn Llywydd ar Academi Frenhinol Cambrian rhwng 1969 ac 1976, ac eto o 1992 ymlaen. Roedd hefyd yn aelod o'r Academi Frenhinol ac yn Gymrawd Anrhydeddus i Goleg Prifysgol, Abertawe (1989), Coleg Prifysgol, Bangor (1991) a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (1992). Ym 1991, derbyniodd Williams Fedal Cymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion. Bu farw yn 2006.
Mae'r thema hon yn cynnwys chwech o beintiadau gan Syr Kyffin Williams.
