Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Erthyglau

Hafan » Erthyglau » H. M. Stanley (1841-1904), arloeswr a newyddiadurwr

H. M. Stanley (1841-1904), arloeswr a newyddiadurwr

Casgliad o eitemau yn ymwneud â H. M. Stanley (1841-1904), arloeswr a newyddiadurwr, a aned yn nhref Dinbych.

Casgliad o eitemau yn ymwneud â H. M. Stanley (1841-1904), arloeswr a newyddiadurwr, a aned yn nhref Dinbych.

Porwch y thema hon

Ganed Syr Henry Morton Stanley (1841-1904) ar 28 Ionawr 1841 yn nhref Dinbych. Ei enw bedydd oedd John Henry Rowlands ac roedd yn blentyn siawns i John Rowlands, ffermwr, ac Elizabeth Parry. Cafodd ei fagu gan ei daid ond pan fu yntau farw ym 1847, bu'n rhaid i Rowlands chwilio am loches yn nhloty Llanelwy lle arhosodd tan fis Mai 1865. Aeth i Lerpwl ym 1868 ac yno cafodd swydd ar long a hwyliodd i Unol Daleithiau America. Gadawodd y llong yn New Orleans a daeth yn gyfeillgar â gŵr o'r enw Henry Hope Stanley a gynigiodd waith iddo gan ei fabwysiadu i bob pwrpas. Tua'r adeg hon y newidiodd John Rowlands ei enw i Henry Stanley (gan setlo ar yr enw canol Morton maes o law).

 

Yn ystod y blynyddoedd dilynol, treuliodd Stanley gyfnod yn ymladd ar ochr y De yn Rhyfel Cartref America, a bu'n dal nifer o swyddi amrywiol, cyn cael gwaith ar long a oedd yn hwylio i Lerpwl. Dychwelodd i America yn ddiweddarach ac ym 1865 cafodd waith fel newyddiadurwr. Dechreuodd ar gyfnod o deithio'r byd, gan ysgrifennu am ei deithiau i lefydd megis Asia, Yr Aifft (Abyssinia) a Sbaen. Daeth ei foment fawr ym 1868 pan ofynnwyd iddo fynd i Affrica i gyf-weld â'r arloeswr David Livingstone. Daeth Stanley o hyd iddo ym 1871 ar lan Llyn Tanganyika gan ei gyfarch â'r geiriau enwog 'Dr Livingstone I presume'.

 

Ym 1890 priododd Dorothy Tennant, merch Charles Tennant, tirfeddianwr o Langatwg, ger Castell-nedd. Ym 1899 cafodd Stanley ei urddo yn farchog y Groes Fawr. Cafodd ei daro'n wael ym mis Ebrill 1903 a bu farw ar 10 Mai 1904. Cynhaliwyd ei angladd yn Abaty Westminster, ond ni chaniatawyd iddo gael ei gladdu yno. Yn hytrach, fe'i claddwyd yn Pirbright. Gosododd ei wraig garreg wenithfaen ar ei fedd ac arni'n arysgrif canlynol: 'Henry Morton Stanley, Bula Matari, 1841-1904, Africa'.

 

Mae'r thema hon yn cynnwys casgliad o lythyrau a anfonwyd gan H. M. Stanley a'i wraig at y Parchedig Cunningham Geikie, mapiau a luniwyd gan Stanley, ynghyd â dogfennau swyddogol yn cofnodi'r cyfnod a dreuliodd yn nhloty Llanelwy.