Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Erthyglau

Hafan » Erthyglau » Gwersyll carcharorion arbennig Island Farm, Pen-y-bont ar Ogwr, 1939-45

Gwersyll carcharorion arbennig Island Farm, Pen-y-bont ar Ogwr, 1939-45

Mae'r thema hon yn cynnwys ffotograffau, peintiadau a gwrthrychau sy'n ymwneud â Gwersyll Carcharorion Arbennig Island Farm rhif 11, ger Pen-y-bont ar Ogwr, a ddefnyddiwyd i gadw dros 180 o uwch swyddogion o'r Almaen wedi'r Ail Ryfel Byd.

Mae'r thema hon yn cynnwys ffotograffau, peintiadau a gwrthrychau sy'n ymwneud â Gwersyll Carcharorion Arbennig Island Farm rhif 11, ger Pen-y-bont ar Ogwr, a ddefnyddiwyd i gadw dros 180 o uwch swyddogion o'r Almaen wedi'r Ail Ryfel Byd.

Porwch y thema hon

Adeiladwyd Gwersyll Island Farm yn wreiddiol ar gyfer gweithwyr ffatri arfau Pen-y-bont ar Ogwr, fodd bynnag, ni chafodd ei ddefnyddio at y pwrpas hwn a bu'r adeiladau yn wag hyd nes i'r Americanwyr gyrraedd ym 1943. Arhosodd yr Americaniaid yno hyd nes 6 Mehefin 1944 (D-Day) pan gafodd y gwersyll ei adael yn wag unwaith yn rhagor, cyn cael ei ddefnyddio i gadw carcharorion rhyfel o'r Almaen.

 

Yr enw a roddid ar y gwersyll o hynny ymlaen oedd Gwersyll Rhyfel 198 ac o fis Tachwedd 1944, roedd mwyafrif y carcharorion yn swyddogion byddin yr Almaen. Ym 1945 llwyddodd 72 o'r swyddogion hyn i ddianc o'r gwersyll trwy dwnnel, ond cawsant oll eu dal.

 

Hyd yn oed ar ddiwedd y rhyfel roedd gwersyll Island Farm yn parhau i gael ei ddefnyddio fel gwersyll carcharorion. Cafodd y gwersyll ei ail-agor a'i ailenwi'n Wersyll Cyntaf Almaenig Arbennig 11, ac fe'i defnyddiwyd i gadw Uwch Swyddogion Almaenig, gan gynnwys tri Chadlywydd, hyd nes iddo gau am y tro olaf ym 1948.

 

Ffynhonnell:

S. M. Hawthorne, 'Island Farm Special Camp 11 for Prisoners of War' (Bridgend, Brynteg Comprehensive School, 1989).