Croeso
Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.
Chwiliwch y map
Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.
Erthyglau
Hafan » Erthyglau » Ogof Bontnewydd, Sir DdinbychOgof Bontnewydd, Sir Ddinbych
Casgliad o eitemau a gloddiwyd i'r wyneb yn Ogof Bontnewydd, Sir Ddinbych.
Casgliad o eitemau a gloddiwyd i'r wyneb yn Ogof Bontnewydd, Sir Ddinbych.
Cloddiwyd Ogof Bontnewydd, Sir Ddinbych gan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru rhwng 1978 a 1995. Datgelodd y cloddiadau y dystiolaeth gynharaf o bresenoldeb dynol yng Nghymru sy'n dyddio oddeutu 230,000 o flynyddoedd yn ôl. Roedd y bodau dynol a oedd yn byw naill ai yn yr ogof hon neu yn ei chyffiniau yn ffurf esblygiadol gynnar Neanderthalaidd gyda genau mawr, pwerus ac aeliau trymion. Cynyrchiasant a defnyddiasant offer carreg gan gynnwys llawfwyeill, crafwyr a phicelli syml. Roedd y cerrig a ddefnyddiasant i wneud yr offer hyn yn cynnwys creigiau a oedd ar gael yn lleol yn enwedig y creigiau folcanig a gludwyd i'r ardal gan yr iâ o Eryri. Ymhlith yr anifeiliaid posibl yr oeddynt yn eu hela oedd ceffyl, rhinoseros, hydd coch ac iyrchellau. Roedd yr anifeiliaid eraill a oedd yn byw yng nghyffiniau'r ogof hon yn cynnwys arth, llewpard, llew, blaidd a chnofilod bychain eraill.
