Croeso

Mae Casglu'r Tlysau yn cynnwys dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

Chwiliwch y map

Thumbnail image of Wales,

Nawr gallwch chwilio am dlysau Cymru yn ddaearyddol gan ddefnyddio enwau lleoedd.

Erthyglau

Hafan » Erthyglau » Terfysgoedd Rebecca (Gwasanaeth Archifau Sir Gaerfyrddin)

Terfysgoedd Rebecca (Gwasanaeth Archifau Sir Gaerfyrddin)

Casgliad o lythyrau (42) a ysgrifennwyd gan George Rice Trevor (Arglwydd Dinefwr), Aelod Seneddol ac Is-gapten Sir Gaerfyrddin, yn ystod terfysgoedd Rebecca, 1843-44.

Casgliad o lythyrau (42) a ysgrifennwyd gan George Rice Trevor (Arglwydd Dinefwr), Aelod Seneddol ac Is-gapten Sir Gaerfyrddin, yn ystod terfysgoedd Rebecca, 1843-44.

Porwch y thema hon

'Terfysgoedd Rebecca' yw'r enw a roddir ar y gyfres o ddigwyddiadau a phrotestiadau poblogaidd a welwyd mewn rhannau o dde-orllewin Cymru yn ystod yr 1830au a'r 1840au. Ar y pryd, roedd trigolion yr ardal amaethyddol hon yn dioddef cryn dlodi yn sgil dirwasgiad economaidd difrifol. Rhwng 1837 ac 1841, cafwyd cyfres o gynaeafau gwael iawn a disgynnodd pris cynnyrch y ffermwyr yn sylweddol. Ar yr un pryd, roedd yr amaethwyr yn cael eu gwasgu gan godiadau rhent yn ogystal â chodiad yn nhaliadau'r degwm, treth y tlodion, a threthi'r tollbyrth. Roedd maint y boblogaeth hefyd wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod degawdau cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan osod straen ychwanegol ar y gymdeithas wledig hon.

 

Yn Sir Benfro y gwelwyd 'Merched Beca' yn gweithredu am y tro cyntaf: ym mis Mai 1839, aeth criw o ddynion, wedi eu gwisgo mewn dillad merched, ati i ymosod ar dollborth Efailwen. Diflannodd 'Merched Beca' am gyfnod cyn ailymddangos ym Mehefin 1842 pan ddinistriwyd y dollglwyd ar bont Llandilo Rwnws, Sir Gaerfyrddin. Cyrhaeddodd yr ymosodiadau eu hanterth yn ystod haf 1843, pan benderfynodd yr awdurdodau anfon milwyr i'r ardal. Erbyn diwedd y flwyddyn honno, roedd y terfysgoedd wedi dod i ben i bob pwrpas, ac roedd nifer o arweinwyr y mudiad bellach yn y ddalfa. Prif darged 'Merched Beca' yn y lle cyntaf oedd y tollbyrth - symbolau gweledol o'r ormes a'r wasgfa economaidd a wynebai amaethwyr yr ardal. Ond yn fuan iawn, ymledodd y protestiadau i dargedu tirfeddiannwyr a'r unigolion rheini a oedd yn gyfrifol am gasglu'r degwm. Yn ogystal, cafwyd ymosodiadau ar nifer o dlotai yn yr ardal wrth i'r protestwyr leisio eu hanfodlonrwydd â Deddf Newydd y Tlodion 1834 a'r modd yr oedd tlodion bellach yn cael eu trin.

 

Casgliad o lythyrau a geir yma a ysgrifennwyd gan yr Aelod Seneddol lleol, George Rice Trevor (sef Barwn neu Arglwydd Dinefwr) ac maent yn ymwneud yn benodol â gweithgarwch 'Merched Beca' yn ne-ddwyrain Sir Gaerfyrddin a gorllewin Morgannwg, rhwng 1843 a 1844. Roedd hon yn ardal lle'r oedd nifer o ddiwydiannau newydd wedi eu sefydlu a gwelwyd y glowyr a'r gweithwyr metel yn ymuno â'r amaethwyr yn eu protest. Mae'r rhan fwyaf o'r llythyrau wedi eu cyfeirio at William Chambers, yr ieuaf; roedd ef yn cael ei ystyried yn ddyn rhyddfrydol ac roedd yn bresennol yn ystod rhai o gyfarfodydd cyhoeddus cyntaf 'Rebecca'. Fodd bynnag, roedd ganddo hefyd berthynas agos â'r awdurdodau, a gwnaeth ei orau i atal gweithgareddau treisgar, liw nos merched Beca yn rhinwedd ei swydd fel ynad heddwch yn Llanelli. Mae un o'r llythyrau yn cynnwys disgrifiad byw gan Trevor o'r ymosodiad treisgar ar dollborth yr Hendy, Sir Forgannwg, ym mis Mehefin 1843, pan laddwyd Sarah Williams, ceidwad y tollborth.

 

Darllen pellach:

www.learningcurve.gov.uk/snapshots/snapshot48/snapshot48.htm